Tripiau ysgol

Caiff pecynnau i ysgolion eu dosbarthu i bob ysgol gynradd ar draws Caerdydd yn ystod tymor yr hydref. Maent yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd angen arnoch gan gynnwys:

  • Perfformiadau Nadolig – Y Stori
  • Gwersi canu clychau plât
  • Ein hasynnod hyfryd

Sut i archebu eich lle

Pypediau bugeiliaid a defaid

Anfonwch e-bost at: stori-nadolig@hotmail.co.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw’r ysgol
  • Cyswllt yn yr ysgol a rhif ffôn symudol ar gyfer diwrnod eich ymweliad (rhag ofn y bydd anhawster)
  • Dewis o ddyddiadau ac amseroedd yr hoffech
  • Nifer o seddi sy’n ofynnol
  • Oedrannau’r plant a fydd yn bresennol
  • Unrhyw anghenion neu ofynion eraill

Teipiwch enw’r ysgol yn nheitl yr e-bost os gwelwch yn dda. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi atom!

Lawrlwytho Dogfen

Gwybodaeth bellach ar gyfer grwpiau ysgol

Beth yw ‘Nadolig – Y Stori’?

Herod a’i was

Mae Nadolig – Y Stori yn dod â stori 2,000 o flynyddoedd oed am eni’r Iesu yn fyw. Rydym yn defnyddio actorion, gwisgoedd a llwyfannu proffesiynol, yn ogystal â phypedau rhagorol.

Mae’r cynhyrchiad ugain-munud hwn yn llawn golygfeydd gwefreiddiol. Ar eu taith mae Mair a Joseff yn dod ar draws angylion a bugeiliaid, milwyr a stablau, genedigaeth plentyn, sêr ddewiniaid a sêr – heb sôn am y dihiryn Herod – cyn dychwelyd adref o’r diwedd yn ddiogel i Nasareth.

Bydd pawb yn ein gadael gyda dealltwriaeth mwy yfoetho o’n dathliadau a’n treftadaeth diwylliannol. Ac mae’n lawer iawn o hwyl!

Mae ‘Nadolig – Y Stori’ yn drip addysgiadol ardderchog a fwynhawyd yn fawr gain ein plant i gyd … byddwn yn argymell i bawb gael cyfle i weld perfformiad.

Mr David Harries, Prifathro
Ysgol Tredegarville

Er bod Nadolig – Y Stori yn anrheg o’n heglwysi i blant Caerdydd, nid oes unrhyw efengylu neu bregethu – dim ond y stori ei hun.

Gwersi Canu Clychau Plât
Clychau plât


Pam ddim bwcio eich dosbarth i mewn i wers canu clychau plât am ddim hefyd?

Bydd gan bob plentyn gloch eu hun i ganu, ac o dan arweiniad un o’n hathrawon byddant yn creu cerddoriaeth yn gyflym dros ben. Gan weithio gyda’i gilydd fel tîm, bydd y plant yn cael syniad cryf o’r ffordd y mae nodau unigol yn dod at ei gilydd i greu alaw.

Mae’r sesiynau yn cael eu cynnal o dan yr un to â Nadolig – Y Stori. Bydd y plant yn cael eu hebrwng i brif ran yr adeilad – enghraifft wych o Gapel anghydffurfiol Cymraeg.

Dewch i Gwrdd â’n Hasynnod Hyfryd
Ein hasynnod hyfryd

Bydd ein hasynnod hyfyrd y tu allan i Gapel y Tabernacl yn barod i’ch croesawu pan fyddwch yn cyrraedd!

Rydym yn gweithio’n agos gyda The Donkey Sanctuary ac mae’r ffordd rydym yn gofalu am yr asynnod wedi cael ei gymeradwyo gan Gyngor Dinas Caerdydd a The Donkey Sanctuary.

Mae asynnod yn greaduriaid cymdeithasol ac maen nhw’n mwynhau cwmni pobl. Pob nos, maen nhw’n cael eu cymryd i stablau lleol ble mae’n nhw’n cael gofal da.

Mae nifer o bobl wedi ein cefnogi gyda’r asynnod dros y blynyddoedd. Nid oes modd i ni enwi pawb ond hoffwn ddiolch yn arbennig i The Donkey SanctuaryMike’s Donkeys ac Emma.