Helpwch Ni

Gallwch chi ein cefnogi ni drwy wirfoddoli fel aelod o’r tîm a thrwy gyfrannu rhodd.

Mae angen eich anogaeth a’ch ymglymiad arnom. Ni allwn lwyddo heb gymorth gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser a’u sgiliau.

Rydym hefyd yn ddibynnol ar eich haelioni. Mae rhoddion yn ein galluogi ni lwyfannu’r cynhyrchiad ac i’n helpu i ledaenu’r prosiect yn genedlaethol.

Mae’r miloedd sydd wedi dod trwy ein drysau ers 2010 wedi gwirioni yn Nadolig – Y Stori. Os hoffech wirfoddoli neu roi yn ariannol i’r prosiect, darllenwch ymlaen os gwelwch yn dda.

Gwirfoddoli gyda ni

Hoffech chi wirfoddoli gyda ni?

Heb garedigrwydd ein gwirfoddolwyr ffantastig, ni fyddai Nadolig – Y Stori yn gallu cael ei gynnal.

Mae angen llawer o help arnom i lwyfannu’r cynhyrchiad ac rydym bob amser yn chwilio am fwy o gefnogaeth. Mae pob awr yn help ac mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi ein helpu:

  • Ymuno gyda’n tîm croeso
  • Edrych ar ôl ein hasynnod hyfryd
  • Actio gyda ni
  • Bod yn bypedwr i’n bugeiliaid gwych
  • Helpu rhoi’r set i fyny a nôl i lawr
  • Gwnïo gwisgoedd
  • Gwneud propiau
  • Peintio’r set
  • Codi arian
  • Gyrru, cyrchu a chludo
  • Hyrwyddo’r digwyddiad yn eich grŵp cymunedol, eich eglwys neu’ch ysgol leol

Mae gwirfoddoli gyda ni yn rhoi llawer o foddhad ac mae’n hwyl hefyd.

Mae hefyd gyda ni grŵp o wirfoddolwyr sy’n mynd allan i’r gymuned i chwilio am gefnogaeth.

Os hoffech chi helpu neu os oes diddordeb gyda chi i’n gwahodd i’ch egwlys neu’ch grŵp lleol, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.

Rhoi

Ydych chi’n caru Nadolig – Y Stori?

Bob blwyddyn, rydym yn adrodd hanes y Geni i filoedd o blant ysgol. Maen nhw’n caru dod i’n gweld ac yn cael amser ffantastig. Mae ymateb y cyhoedd hefyd yn wych – maen nhw’n dweud wrthym ni bod y stori yn gwneud eu Nadolig yn arbennig iawn.

 “…perfformiad hyfryd ac mor hawdd i bobl i ddod a gweld yng nghanol y dref…”

Mae’ch rhoddion yn helpu cadw Drama’r Geni fel rhan o’n dathliadau Nadolig.

Gallwch roi mewn sawl ffordd:

1. Ceiniogau o’r Nefoedd – Rhowch Eich Newid Mân i Ni!

Rydym wedi bod yn brysur iawn yn gwneud jariau casglu arian wedi’u cynllunio’n arbennig, gyda phob un wedi’i wneud â llaw. Mae’r rhain yn ein helpu gwneud newid mawr gyda’ch newid mân.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud ydy cysylltu â Sally am jar ac yna’i ddefnyddio i gasglu’ch newid mân. Pan ydych yn barod i’w drosglwyddo i ni, cysylltwch eto a ddown ni atoch chi i’w gasglu. I gysylltu â Sally, ffoniwch 029 2049 3326 gan adael neges neu anfonwch neges destun at 07876 464855.

Rydym wedi gwneud llawer o jariau – digon i chi, eich teulu a’ch ffrindiau yn ogystal â’ch eglwys neu grŵp lleol arall. Mae pob ceiniog yn help!

2. Rhowch i Ni’n Uniongyrchol

Efallai carech chi wneud un taliad i Nadolig – Y Stori neu yr hoffech sefydlu taliad rheolaidd tuag at ein gwaith. Gallwch chi nawr drosglwyddo’ch rhodd yn uniongyrchol i’n cyfrif Nat West. Dyma’r manylion:

Enw’r cyfrif: Cardiff Nativity
Rhif cyfrif: 20254393
Côd didoli: 52-21-06

3. Anfonwch Siec Atom

Os byddai’n well gyennych chi neu’ch eglwys neu’ch grŵp lleol roi mewn ffordd fwy traddodiadol, anfonwch siec yn ddaliadwy i Grŵp Drama’r Geni Caerdydd, at:

Nadolig – Y StoriChurch House
Church Road
Llysfaen
Caerdydd
CF14 0SJ

4. Cefnogwch Ni wrth i chi Siopa

Caru siopa ar-lein? Ewch i Amazon Smile, dewiswch The Story Foundation fel eich elusen a bydd 0.5% o bris eich nwyddau yn cael ei roi i ni.

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Diolch.