Amdanom

Awn â’n plant i weld Siôn Corn blwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn mwynhau mynd. Mae wedi dod yn draddodiad. Felly, pam ddim stori’r Nadolig hefyd?

Beth petai darn o theatr proffesiynol, teimladwy, ar agor i bawb, bob mis Rhagfyr? Yn cael ei wneud mor rhwydd a hygyrch ag ymweliad â Siôn Corn. Wel mae ‘Nadolig – Y Stori’ yn bwriadu gwneud hynny’n union.

Gobeithiwn ddod â Drama’r Geni yn fyw i drefi ar draws y DU.

Ond pam?

Ydy’r holl beth wir yn angenrheidiol?

Mae pawb yn gwybod y stori wedi’r cwbl… 

Dydy hyn ddim yn wir o hyd. Mae’r stori’r yn gwywo o’r Nadolig:

  • Dydy 36% o bobl Prydain rhwng 18 a 25 oed ddim yn gwybod y stori o gwbl. Dydyn nhw ddim yn gwybod lle ganwyd Iesu hyd yn oed.
  •  Dim ond 44% o blant cynradd sy’n gwybod mai i ddathlu geni Crist yw’r Nadolig.
  •  Mae gan lai na 2% o gardiau Nadolig thema grefyddol.
  • Dydy naw allan o ddeg o bobl sy’n ystyried eu hunain yn Gristnogion ddim yn mynd i’r eglwys. Yr unig ffordd y mae’u plant yn dod i wybod am y stori yw trwy Ddrama’r Geni y babanod. Mae’n debygol na fyddant yn ei chlywed eto.

Os ydym am weld newid yn yr ystadegau hyn, yna gwaith eglwysi ydy gwneud i hyn ddigwydd. Ni fydd neb yn ei wneud drosom. Ac yn fuan, bydd yn rhy hwyr i droi’r cloc yn ôl.

Hanes

Yn 2010 rhoddwyd perfformiadau o ‘Nadolig – Y Stori’ o’r 1af i’r 18fed o Ragfyr. Bob dydd rhoesom 11 perfformiad o’n Drama Geni, am ddim. Roedd y cyhoedd wedi gwirioni!

Dangosodd y ffaith i ni ddychwelyd yn 2011 nad one-off oedd ‘Nadolig – Y Stori’. Cafwyd perfformiadau am fwy o ddyddiau, rhoesom hyd yn oed mwy o berfformiadau ac fe gyflwynon ni ein asynnod go-iawn, sydd erbyn hyn yn enwog. Roedd pawb (ac yn enwedig ein tripiau ysgol) wrth eu boddau!

Yn 2012 fe grëon ac fe ddosbarthon ni gannoedd o fodelau o’r baban Iesu i blant ac oedolion fynd adre gyda nhw i’w hatgoffa o’r stori a glywsant. Unwaith eto, daeth miloedd trwy ein drysau. Dywedodd llawer fod y stori eisioes yn draddodiad Nadolig newydd!

Bu datblygiad cyffrous iawn yn 2013 wrth i Aberdâr ymuno â’r prosiect. Yng Nghaerdydd, cawson set, trac sain ac angel newydd. Nid yn unig hynny ond ychwanegon ni elfen newydd sbon i’n tripiau ysgol gyda Stop yr Organ yn Eglwys Gatholig Dewi Sant ar Charles Street. Cafodd y plant gyfle i chwarae organ bib go iawn! Anhygoel! Ac roedd ein drysau ar agor gyda’r nos hefyd gyda llwyfaniad Opera Nadolig: Amahl and the Night Visitors.

Yna yn 2014, dechreuwyd cynyrchiadau newydd yng Nghaerfyrddin a Phort Talbot ac ymunodd y Barri gyda ni hefyd yn 2015!

Dechreuodd 2016 gyda Nadolig – Y Stori yn cyrraedd rhestr fer y Gwobrau EPIC ac yna ymunodd Pen-y-bont at Ogwr â’r prosiect yn 2017!

Ym mis Ragfyr rydym yn ôl gyda chynhyrchiad gwell nag erioed! Mae’r stori’n parhau…